Taith Gerdded Noddedig y Llywydd

Y Capeli
Bethlehem, Trefdraeth Bethlehem Trefdraeth
Caersalem,Dyfed Caersalem, Dyfed
Jabes, Cwm Gwaun Jabes, Cwm Gwaun
Tabor, Dinas Tabor, Dinas
Taith Gerdded Noddedig y Llywydd

Fel rhan o flwyddyn ein Gweinidog fel Llywydd Adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru o 2007 i 2008 bu yntau  ac Irfon James, un o ddiaconiaid Tabor, Dinas ar daith gerdded noddedig yn ystod Ebrill a Mai 2008 er mwyn codi arian i wahanol elusennau.

Treuliwyd 21 diwrnod yn cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro - 186 0 filltiroedd o Lanrhath (Amroth) yn y de i Landudoch yng ngogledd y sir. Unodd eraill o aelodau'r eglwysi a ffrindiau eraillar sawl dydd Sadwrn

 

Diolch i'r llu o eglwysi a chymanfaoedd, cymdeithasau a ffrikndiau a gyfrannodd yn hael iawn tuag at y gronfa apel.

Cyflwynwyd dros £2000 tuag at waith  Clwb y Gateway yn Abergwaun.

Cyflwynwyd £5000 tuag at yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru

Cyflwynwyd £5000 tuag at prosiect Cymorth Cristnogol yn Ethiopia. Mae'r prosiect hwn sy'n cymeryd lle trwy gymorth partneriaid Cymorth Cristnogol - "Water Action" yn bwriadu dod a dwr glân i 55,000 o bobl.  Ond yr hyn sy'n cynyddu gwerth yr arian yw bod y Comisiwn Ewropeaidd yn rhoi £3 am bob £1 a gyfrannwyd. Felly roedd cyfraniad o £5,000 yn newid i fod yn werth £20,000.