Tabor

Y Capeli
Bethlehem, Trefdraeth Bethlehem Trefdraeth
Caersalem,Dyfed Caersalem, Dyfed
Jabes, Cwm Gwaun Jabes, Cwm Gwaun
Tabor, Dinas Tabor, Dinas
Hanes Tabor
Bethlehem, Trefdraeth

Croeso cynnes i’n hoedfaon a’n gweithgareddau.
Gweler trefn y cylch

Lleoliad
Pentref ar y briffordd rhwng Abergwaun ac Aberteifi. Traethau Pwllgwaelod a Chwm yr Eglwys gerllaw.

Y Dechreuadau
1792—Agorwyd y capel cyntaf ddydd Nadolig
1799 - Corffori’r eglwys
1842—Codi’r capel presennol

Hanes Tabor
Corfforwyd eglwys Tabor ym1799 ond rhaid mynd yn ôl mor bell â 1677 i weld tarddiant yr achos. Roedd yna Owen Prosser, Brynhenllan yn aelod yn Rhydwilym cyn 1677, y flwyddyn pryd y bedyddiwyd dau arall o’r Dinas yno. Yn ddiweddarach, eglwys Llangloffan fu’n meithrin Bedyddwyr yr ardal. Bu pobl Llangloffan yn cenhadu trwy’r ardaloedd. Cynhelid cyrddau mewn tai yn ardal Dinas ddegau o flynyddoedd cyn adeiladu capel cyntaf Tabor ym 1792.