Jabes
Unwch gyda ni yn ein haddoliad.
Gweler trefn oedfaon y cylch
Lleoliad
Yn nyffryn hardd Cwm Gwaun tua pum milltir o Abergwaun ac yn agos i ardal Pontfaen.
Y Dechreuadau
1803 - Adeiladu’r capel cyntaf
1820 - Corffori’r eglwys
1904—codi’r capel newydd
Hanes Jabes
Corfforwyd eglwys Jabes, Cwm Gwaun ar Dachwedd 21ain 1820, er bod ei hanes yn ymestyn nôl flynyddoedd lawer cyn hynny. Aed ati ym 1803 i godi’r capel cyntaf a rhoddwyd tir am fil o flynyddoedd gan David Havard, Penrhiw. Pan ddaeth y Parchedig John Llewelyn Morris (gweinidog 1883 - 1917) yn berchennog ar Benrhiw, rhoddodd yr holl dir sydd ag eiddo’r eglwys wedi ei godi arno yn rhydd-ddaliad i eglwys Jabes ac erbyn 1904 yr oedd wedi sicrhau’r arian i godi’r capel newydd.


