Eglwysi Bedyddwyr Cylch Carn Ingli
Cydweithio
Daeth pedair eglwys Cylch Carn Ingli at ei gilydd ym 1985 i greu un cylch gweinidogaethol. Ond cyn hynny bu'r eglwysi yn dod at ei gilydd i gynnal Cymanfa Ganu am dros gan mlynedd adeg y Pasg, a Chymanfa Bwnc ar y Sulgwyn ers canrif a hanner neu fwy.
Cydaddoli
Os edrychwch ar ein trefn oedfaon fe welwch bod yr eglwysi yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i gydaddoli, yn ddwy, yn bedair neu gydag eglwysi'r Annibynwyr yn Dinas a Threfdraeth. Ond ym mha adeilad bynnag yr addolwn ynddo, ein bwriad yw dyrchafu enw yr Arglwydd Iesu Grist yn ein plith.
Cyd-dystio
Ein pwrpas wrth addoli ac wrth wasanaethu eraill yn y gymdeithas ac yn y byd ehangach, yw tystio gyda'n gilydd i gariad yr Arglwydd Iesu tuag at bawb ohonom.
Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion am fod yn dystion iddo. Gobeithiwn a gweddïwn bod ein haddoliad fel eglwysi a'n gweithgareddau, wrth i ni ymwneud â phobl ym mhob man, yn dystiolaeth heddiw i'r ffordd y mae cariad Iesu yn berthnasol i fywyd trigolion y ddaear.



