Blog y Daith Gerdded
Traeth Mawr i Ceibwr
Dydd Gwener, Mai 16eg
-------------------------------------------------------------------
Mae wedi bod yn ddiwrnodau o deithio mewn dull go wahanol i'r hen ddwy droed ac mae'n braf cael bod yn ôl ar y llwybr yn fore gydag Eurfyl yn uno gyda Irfon a minnau unwaith eto. Dydd Mercher a dydd Iau, fel rhan o'm gwaith fel Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru eleni, rwyf wedi bod yn ymweld â rhai o'r cymanfaoedd sirol. Taith i ben draw Llŷn oedd hi ddydd Mercher a chael cyfle i ddweud gair ym Methesda, Rhoshirwaun. Y cyfarfod dan lywyddiaeth cyfaill da o ddyddiau coleg ac un fydd yn dod yn is-lywydd i'r Undeb yr haf hwn. Mae Olaf Davies wedi dychwelyd i'r ddinas y bu'r ddau ohonom yn fyfyrwyr ynddi ac yn weinidog ym Mhenuel, Bangor a'r cylch. Diolch am frwdfrydedd y cynadleddwyr dros yr elusennau fydd yn elwa o'r daith gerdded ac maent yn rhoi rhodd o £500 o goffrau'r Gymanfa. Drannoeth, caf addewid o rodd o Gymanfa Dwyrain Morgannwg. Tro hwn rwyf wedi teithio i Flaen y Cwm yn y Rhondda ac i ardal sy'n ddieithr iawn i mi. Cofiaf lwybrau Pen Llŷn o ddyddiau'r coleg ond prin iawn yw'r troeon y bûm yn y Rhondda heb sôn am gael cyfle i bregethu yn y capeli yno.
Golygfa go wahanol i'r Rhondda sydd o flaen ein llygaid wrth i ni adael Traeth Mawr, Trefdraeth y tu ôl i ni a cherdded ymlaen tuag at y penrhyn a elwir Y Morfa. Mae Eurfyl yn awyddus i gael llun o'r tri ohonom ond gan nad oes neb wrth law i wneud hynny mae'n ymestyn ei fraich mas a throi'r camera i gyfeiriad ein hwynebau.. ‘Close up' go ddoniol oedd yr ymgais a hynny o dri wyneb. Gallem fod yn unrhyw le yn y byd gan nad oes dim cefndir i'w weld. I ddweud y gwir does dim rhyw lawer o olygfa heddiw gan ei bod hi'n hen ddiwrnod go ddiflas gydag ychydig o niwl a glaw mân. Mae'n chwithig a ninnau wedi cael tywydd da yr holl daith hyn yn hyn ond dyna fe, dylen ni ddim cwyno a ninnau ddim wedi gorfod newid dim o'n trefniadau oherwydd y tywydd dros y chwech wythnos.
Nid yw taith heddiw yn un hir ond mae'n ein harwain allan i'r penrhyn olaf a'r mwyaf ar ein taith ac fe fyddwn yn rhannu'r penrhyn rhwng teithiau heddiw a fory gan anelu am draeth Ceibwr sydd gerllaw pentref Trewyddel. Mae'r sawl sy'n cerdded y daith hon o Ceibwr i Traeth Mawr, Trefdraeth yn sôn am y teimlad y cant wrth ddod o gwmpas y penrhynoedd aml sydd ar yr arfordir. Teimlant bod y Traeth rown y gornel nesaf, ond na, mae yn a benrhyn arall ac un arall. A felly mae'r daith yn ymddangos yn ddiddiwedd. Y teimlad a gawn ni wrth fynd allan i pentir hwn yw teimlo'r wlad yn ymbellhau oddi wrthym. Gan bod y penrhyn fel rhyw fola mawr yn gw5thio mas i'r môr mae'r golygfeydd yn diflannu a chithau ar y llethr yn gweld braidd dim ond y môr. Mae'n deimlad o unigrwydd a dyma un o'r mannau mwyaf anghysbell o'r llwybr i gyd. Yn wir fe rybuddir cerddwyr bod hwn yn lwybr anodd ac nad oes modd mynd oddi arno mewn un man gan nad oes llwybrau yn uno ar y darn hwn o gwbl.
Os yw'r lle yn unig mae'r cwmni yn hwylus ac mae'n dda ei fod felly oherwydd mae'r tywydd yn gwaethygu gyda'r glaw, a oedd yn fan, bellach yn cwympo'n gyson a thrwm. Serch hynny, mae'r glannau wrth i ni nesau at Ceibwr yn hynod iawn ac yn arall fydol mewn mannau. Dyna mae'n siŵr sydd i gyfrif bod un man yn cael yr enw Pwll y Wrach a chithau fel petaech yn cerdded ar bont o glogwyn gyda'r dwr y ddwy ochr i'r llwybr. Disgyn ac esgyn wnawn eto gyda un man yn gwneud i ni ddiolch mai i'r cyfeiriad hyn yr ydym yn cerdded. Er ein bod yn uchel i fyny mae'n rhaid ein bod wedi esgyn yn raddol dros sawl milltir oherwydd yn sydyn mae'r llwybr yn mynd a ni lawr ac i lawr mewn amser byr iawn. Ond dyna fe, mae hynny siŵr o fod yn ddarlun o fywyd. Weithiau yn teimlo ar ben y mynydd ac ar adegau eraill rhyw ddigwyddiad yn ein gadael i deimlo'n isel iawn.
Yr unig iselder a deimlwn yn awr yw diflastod y glaw. Mae hi'n gwaethygu. Mae hi'n amser cinio ond does dim awydd ar un ohonom i oedi i fwyta. Felly wrth i ni ddod at Ceibwr dyna lle mae'r tri ohonom yn bwyta ychydig ar ein traed. Rydym wedi cyrraedd yn gynt na'r disgwyl ac nid oes signal ar y ffôn i roi gwybod i Meinir. Dyma gerdded yn ein blaen ond mae dwy ffordd yr arwain allan o'r traeth i'r pentref a'r cwestiwn yw ar hyd pa un fydd Meinir yn dod. Dyma rannu felly, a minnau'r cymryd y ffordd uchaf a'r ddau arall yn cymeryd y ffordd isaf. Mae'n dda gweld y tacsi'n cyrraedd a thri gwlyb iawn yn tynnu'n dillad tywydd gwlyb cyn disgyn yn ddiolchgar i'r car ac anelu am adref a chawod boeth. Gobeithio na fydd hi fel hyn yfory i orffen y daith.