Bethlehem

Croeso cynnes i'n hoedfaon a'n gweithgareddau.
Gweler trefn y cylch
Lleoliad
Tref lan y môr Trefdraeth ar y briffordd rhwng
Abergwaun ac Aberteifi.
Y Dechreuadau
Capel cyntaf - 1789
Corfforwyd 1795
Adeilad presennol—1855
Hanes Bethlehem
Tua 1675 y mae’r cofnod cyntaf o’r Bedyddwyr yn dechrau eu cenhadaeth yn Nhrefdraeth. Credir bod y pregethwyr cyntaf wedi dod o Rydwilym. Cafodd y canlynol o Drefdraeth eu bedyddio yn Rhydwilym: Elizabeth Lloyd (1690); David James, John Lewis, Angharad Williams ac Ann Havard (1702); William John (1704). Yna ar ôl corffori Cilfowyr ym 1704 a Llangloffan ym 1746, roeddynt hwy rhyngddynt yn gyfrifol am weinidogaethu yn Nhrefdraeth, a’r dewis gan y bobl i ymaelodi yn y naill neu’r llall. Os yng Nghilfowyr y dymunent ymaelodi, yna fe’u bedyddiwyd gan weinidog Llangloffan, ac os yn Llangloffan gan weinidog Cilfowyr.


